Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
16 Rhagfyr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
Cwestiwn Brys
(30 munud)
Gofyn i’r Prif Weinidog
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau pellach i ymateb i’r pandemig COVID-19?
1 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am golli swyddi yn Rhys Davies Logistics yn Ffynnon Taf o ganlyniad i roi’r cwmni yn nwylo gweinyddwyr?
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â phwysau ar y GIG dros y gaeaf, ar wasanaethau ac amseroedd aros am ddiagnosis a thriniaeth?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach
(60 munud)
NDM7518 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2020.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 2 Rhagfyr 2020.
6 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith y pandemig ar y Gymraeg
(30 munud)
NDM7519 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Effaith argyfwng COVID-19 ar y Gymraeg, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Rhagfyr 2020.
7 Dadl Plaid Cymru – Prydau ysgol am ddim
(60 munud)
NDM7521 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim ar unwaith i sicrhau bod unrhyw blentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt, yn gymwys, fel y cam cyntaf tuag at sicrhau bod prydau bwyd maethlon yn cael eu darparu am ddim i bob plentyn oed ysgol yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma’r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau ysgol;
b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy’n hunanynysu neu’n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;
c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;
d) wedi sicrhau mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;
e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;
f) wedi ymrwymo i adolygu’r trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim pan fydd data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ar gael fis Ebrill 2021.
Y Sefydliad Polisi Addysg (Saesneg yn unig)
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r meini prawf cymhwysedd presennol ar gyfer prydau ysgol am ddim yng Nghymru.
2. Yn cydnabod y caledi ariannol y mae teuluoedd wedi'i wynebu ledled Cymru o ganlyniad i bandemig y coronafeirws a'r heriau y mae hyn wedi'u hachosi i rieni a gwarcheidwaid, a'i effaith ar y galw am brydau ysgol am ddim.
3. Yn croesawu'r rôl sydd gan brydau ysgol am ddim o ran gwella iechyd a maeth.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim er mwyn ymestyn y ddarpariaeth i:
a) dysgwyr mewn addysg bellach; a
b) teuluoedd heb incwm ac nad ydynt yn gallu hawlio arian cyhoeddus ar unwaith.
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
(5 munud)
NDM7528 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i), 29.4 a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NDM7529 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 16 Rhagfyr 2020.
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth)
(15 munud)
NDM7529 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) (Saesneg yn unig)
9 Cyfnod Pleidleisio
10 Dadl Fer – Gohiriwyd o 9 Rhagfyr
(30 munud)
NDM7504 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)
Pwysigrwydd cefnogwyr mewn digwyddiadau chwaraeon ar gyfer gwead cymdeithasol ein cymunedau.
11 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7517 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Achub ein cerfluniau: pwysigrwydd parhaus cofebau a henebion hanesyddol.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2021